#

Y Pwyllgor Deisebau | 07 Mai 2019
 Petitions Committee | 07 May 2019
 
 
 ,Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: Deiseb P-05-873

Teitl y ddeiseb: Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Testun y ddeiseb: Pan oeddwn yn iau, cefais fy amddifadu o'r hawl i astudio fy iaith frodorol yn yr ysgol ac, oherwydd hynny, nid wy'n siarad fy iaith frodorol heddiw. Rwyf i, a chynifer o bobl eraill o'm cenhedlaeth, a hyd yn oed y genhedlaeth iau, yn cael eu hamddifadu o'r modd i siarad Cymraeg oherwydd nad oedd addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn llwyddiannus gyda hwy yn y gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud iawn am gamweddau'r gorffennol, a dangos gwir arweinyddiaeth i ymladd dros fy hawl i ddysgu fy iaith fy hun drwy ddarparu dosbarthiadau ac adnoddau Cymraeg am ddim. Rydym yn gofyn i Weinidog y Gymraeg gefnogi'r cynnig hwn ac ariannu'r dosbarthiadau fel y caf i, a llawer o bobl eraill a gafodd eu hamddifadu o'r iaith, y cyfle i'w siarad unwaith eto. Byddai hyn yn cyd-fynd yn llwyr â chynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod, sef Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddai'n rhoi sbardun i bobl ail-afael yn eu diwylliant a'u mamiaith unwaith eto. Gofynnwn i'r Llywodraeth weithio gydag asiantaethau gwahanol i ddarparu'r gwersi hyn i bobl mewn ardaloedd gwahanol a thrwy drefnu i'r gwasanaethau dysgu fod ar gael i bobl ar y we. Hefyd i ddarparu llyfrynnau a phapurau i bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru er mwyn cael cyfle i ddysgu'r iaith.

 

A fyddech cystal â sicrhau hyn i bobl Cymru sy'n awyddus i adennill eu diwylliant a'u hiaith frodorol?

 


 

1.        Cefndir

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw i nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gynyddu i filiwn erbyn 2050, sef bron dwbl y nifer sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 562,000 o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, tua 1 o bob 5 o'r boblogaeth.

Mae'r arolwg Y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013-15 yn dangos bod y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn yn dysgu'r iaith yn yr ysgol (51 y cant) o gymharu â 43 y cant a ddywedodd iddynt ei dysgu yn y cartref fel plentyn. Gellir priodoli llawer o hyn i’r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner canrif diwethaf, er nad yw ysgolion cyfrwng Cymraeg ond tua chwarter yr holl ysgolion yng Nghymru. 

Bydd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol yn dibynnu i raddau helaeth ar dwf addysg cyfrwng Cymraeg. Noda Llywodraeth Cymru yn Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg, 'Addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw ein prif ddull ar gyfer sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg, ac ar gyfer creu siaradwyr newydd'.

Mae Cymraeg 2050 yn mapio'r ffordd at filiwn o siaradwyr Cymraeg, sydd hefyd yn cynnwys cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg ac yn ei siarad. Noda Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

Mae gan y sector Cymraeg i Oedolion gyfraniad pwysig i’w wneud i’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.  Bydd yn gwneud hyn drwy alluogi oedolion o bob gallu ac oedran i wella’u sgiliau, ailddechrau astudio’r Gymraeg neu ddysgu o’r newydd er mwyn rhoi’r hyder iddynt i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn gymdeithasol neu o fewn y teulu.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae newidiadau strwythurol wedi’u gwneud yn y sector.   Mae cyfle nawr i ddatblygu darpariaeth ar lefel genedlaethol i gefnogi cyrsiau ar gyfer y gweithle, y teulu, a chyfleoedd i ddefnyddio technoleg yn fwy effeithiol i gefnogi’r dysgu.

Yn dilyn ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg Ddrafft Llywodraeth Cymru yn 2016, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei adroddiad, Gwireddu'r Uchelgais, gan nodi:

Mae darpariaeth Cymraeg i Oedolion parod o ansawdd da yn rhan bwysig o'r 'ecosystem' gyffredinol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'n arbennig o bwysig o ran helpu i hyrwyddo'r iaith a helpu rhieni sydd am chwarae mwy o ran yn addysg eu plant. Fodd bynnag, efallai na fydd y gyfradd llwyddiant yn ddigon arwyddocaol i hyn gael ei ystyried yn ffordd ganolog ymlaen yng nghyd-destun nodau ac amcanion y strategaeth.

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi darpariaeth Cymraeg i Oedolion, ond ei bod yn 'ystyried yn ofalus flaenoriaeth y maes hwn o fewn y strategaeth o gymharu â meysydd blaenoriaeth eraill'. 

 

 

2.        Cymraeg i Oedolion/Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2016. Mae'n gyfrifol am bob agwedd ar y rhaglen addysg Cymraeg i Oedolion. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, datblygu cyrsiau, y cwricwlwm a marchnata.

Sefydlwyd y Ganolfan mewn ymateb i adolygiad o'r sector gan Lywodraeth Cymru - Codi golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion, sy'n nodi y dylai'r corff newydd fod yn gyfrifol am gydlynu a chynllunio darpariaeth dysgu Cymraeg i oedolion yn genedlaethol. Mae'r Ganolfan Genedlaethol yn gweithio gyda rhwydwaith o 11 darparwr Dysgu Cymraeg ledled Cymru, sy'n cyflwyno cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr ar ei rhan. Ar adeg yr adolygiad yn 2013, amcangyfrifwyd bod un o bob 120 o oedolion di-Gymraeg yng Nghymru yn dysgu Cymraeg. 

Amcanion craidd y Ganolfan yw:

§    Bod yn sefydliad gweledol sy’n gosod cyfeiriad strategol cenedlaethol i’r maes;

§    Cynnig arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion;

§    Codi safonau addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion;

§    Datblygu cwricwlwm cenedlaethol difyr, priodol ac o safon a chynhyrchu adnoddau sy’n addas i bob mathau o ddysgwyr.

 

I helpu dysgwyr a gwella'r mynediad at adnoddau dysgu, mae rhai o'r adnoddau a ddatblygwyd yn cael eu darparu ar-lein.

 

2.1      Cyllid

Ar gyfer 2017-18, cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol £1.85 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at y gwaith o bennu cyfeiriad strategol i'r sector ac ar gyfer datblygu adnoddau dysgu cenedlaethol; hefyd, dosbarthodd y ganolfan gyllid o £8.81 miliwn i ddarparwyr Dysgu Cymraeg ledled Cymru ar gyfer cyrsiau iaith.

Yn ogystal, dyfarnwyd £2.54 miliwn i'r rhaglen Cymraeg Gwaith/Work Welsh a ddatblygwyd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant Cymraeg hyblyg i weithluoedd, a hynny wedi'i ariannu'n llawn.

Byddai'r cyllid ychwanegol ar gyfer Cymraeg Gwaith yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu:

§    Gwybodaeth a chyngor i gyflogwyr ynghylch 'Cymraeg Gwaith';

§    Cyrsiau ar-lein;

§    Cyrsiau dwys ar gyfer 'Cymraeg Gwaith';

§    Cyrsiau ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar;

§    Cyrsiau preswyl ar gyfer 'Cymraeg Gwaith'.

 

Mae rhagor o fanylion am gyllideb y Ganolfan a'r cyllid a ddosbarthwyd i ddarparwyr Dysgu Cymraeg ar gael yn ei Hadroddiad Blynyddol 2017-18.

 

2.2        Cyrsiau a Ffioedd

Er gwaethaf y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr Dysgu Cymraeg, nid yw hyn yn ddigon ar gyfer holl gostau cyflwyno cyrsiau. Gall oedolion sydd am ddysgu'r iaith fanteisio ar nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael ledled Cymru, gyda chostau'r cyrsiau yn amrywio o'r naill ardal i'r llall (fe'u gyflenwir gan wahanol ddarparwyr); mae rhai ardaloedd yn darparu cyrsiau rhagflas am ddim neu am ffi enwol o £10-£30.

I'r rhai sy'n am ddatblygu eu sgiliau iaith, mae nifer fawr o gyrsiau ar gyfer gwahanol lefelau o ran dysgu a rhuglder. Mae cyrsiau'n dechrau gyda Mynediad, yna Sylfaen, Canolradd, Uwch 1 ac Uwch 2. Mae'r ffioedd hefyd yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar hyd a dwyster y cwrs, ond mae'r rhan fwyaf o gyrsiau yn costio rhwng £70 a £120; mae'r cwrs drutaf yng Nghaerdydd (Cyrsiau Mynediad a Chanolradd - Rhan 1 a 2 yn para 8 wythnos am £360).

Hefyd, mae opsiwn i fynd ar gyrsiau preswyl dwys a ddarperir yn Nant Gwrtheyrn.Mae'r cwrs drutaf yn para wythnos (llety a phob pryd bwyd) ac mae'n costio £495. 

Gall oedolion sy'n am ddysgu bori drwy'r gwahanol gyrsiau sydd ar gael ar-lein.

Er nad oes cymorth ariannol i helpu i dalu am ffioedd cyrsiau, mae'n bosibl y bydd unigolion yn gallu hawlio rhywfaint o gymorth ariannol i'w helpu i ddysgu Cymraeg. Gallai dysgwyr cymwys gael cymorth ar gyfer cost gofal plant (hyd at 3.5 awr am £5 y plentyn ar gyfer pob gwers), ffioedd arholiadau, cost adnoddau a chostau teithio (hyd at 60 milltir am £0.25 y filltir ar gyfer pob taith). Mae manylion pellach ar gael ar wefan Dysgu Cymraeg

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.